This website uses cookies to ensure that we give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies. Ok, got it!
Rydyn ni’n cynnig cymorth fel bod pobl yn gallu gwneud y pethau maen nhw’n caru eu gwneud, cyflawni eu hamcanion a byw bywydau da, gan sicrhau bod gan bawb lais, dewis a rheolaeth. Dyna beth mae Mirus yn ei wneud.
Rydyn ni’n hyrwyddo hawliau pobl anabl a’u teuluoedd, gan ddangos yr hyn sy’n bosibl drwy ddileu rhwystrau a herio canfyddiadau mewn cymdeithas.

Rydyn ni’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, salwch meddwl, pobl awtistig a’u teuluoedd.
Mae ein gwasanaethau cymorth yn cael eu llunio gan y bobl sy’n eu defnyddio. Rydyn ni’n gwrando ar lais a phrofiadau unigryw pob person, gan sicrhau bod gan bawb ddewis a rheolaeth ym mhopeth maen nhw’n ei wneud – gan gynnwys sut maen nhw’n cael eu cefnogi.
Y gwasanaethau cymorth a gynigiwn:
– Byw â chymorth ar y cyd
– Byw’n annibynnol â chymorth
– Cymorth cymunedol hyblyg
– Seibiant a seibiannau byr
Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl fywydau gwell pan fyddan nhw’n teimlo’n rhan o’u cymuned leol – ac mae’r gymuned yn elwa hefyd!
Rydyn ni’n gweithio gydag eraill yn y gymuned i adeiladu rhwydweithiau sy’n annog pobl i archwilio cyfleoedd, darganfod diddordebau newydd, datblygu perthnasoedd a gwella eu hannibyniaeth.e.


Rydyn ni’n hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau dysgu, salwch meddwl, pobl awtistig a’u teuluoedd, gan ddangos yr hyn sy’n bosibl drwy ddileu rhwystrau a herio canfyddiadau mewn cymdeithas.
Cawn ein harwain gan ein gwerthoedd cryf; Gyda’n Gilydd, Parchus, Cyfrifol, Grymusol a Dewr.
Ein gwerthoedd yw sylfaen popeth a wnawn ym Mirus, gan lunio ein dull a’n penderfyniadau.
Drwy fyw’r gwerthoedd hyn, rydyn ni’n sicrhau ein bod yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar fywydau pobl.



1. Powys
2. Gwent
3. Caerdydd a Bro Morgannwg
4. Pen-y-bont ar Ogwr
5. Castell-nedd Port Talbot
6. Abertawe
7. Sir Gaerfyrddin
Rydyn ni’n cael ein llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr – gwirfoddolwyr sy’n ein helpu i gyflawni ein nodau drwy sicrhau ein bod bob amser yn gweithio tuag atyn nhw.
Mae ein Hymddiriedolwyr yn cyfarfod bob tri mis i adolygu ein gwaith a sicrhau ein bod yn rhoi’r cymorth cywir.


Rydyn ni’n sefydliad dielw, sy’n cael ei ariannu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys drwy wasanaethau cymorth sy’n cael eu comisiynu gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gwasanaethau cymorth unigol sy’n cael eu hariannu’n breifat, a thrwy roddion elusennol a chodi arian.
Mae gennym berthynas waith gadarnhaol ag Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
1. Cefnogi pobl i fyw bywydau da
2. Buddsoddi yn ein staff
3. Tyfu’n gynaliadwy
4. Dylanwadu ar ein hamgylchedd
Rydyn ni’n falch o fod yn sefydliad Cymreig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu’n barhaus y gwasanaethau, y cymorth a’r wybodaeth a ddarparwn yn y Gymraeg.